Sut i wneud cais?

Sut i wneud cais am gymorth

Gwahoddir ceisiadau ar ffurf llythyr neu, gorau oll, e-bost.

Anfonwch eich cais at:
D. Bryan James
Ysgrifennydd Cronfa Glyndŵr, 52 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QB
db.james@ntlworld.com

Dylech gynnwys y wybodaeth isod.

Adran 1
Enw a swyddogaeth y person sy’n gwneud y cais
Enw’r Ysgol / Cylch / Grŵp
Cyfeiriad llawn, yn cynnwys y côd post
Rhif ffôn ac e-bost

Adran 2
Nodwch yr union swm y gofynnwch amdano, gan egluro pwrpas y cais.
Nodwch gymaint ag y gallwch o’r manylion ariannol sy’n gefndir i’r cais.
Pa gyfraniad a wneir gan yr Ysgol / Cylch / Grŵp ei hun, a/neu gan eraill, tuag at y nod arbennig hwn?
Pryd a sut y bwriedir gweithredu?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â’r Ysgrifennydd ar 02920 566731 neu e-bost db.james@ntlworld.com




Picture