Amdanon ni
Sefydlwyd Cronfa Glyndŵr yn 1963 er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg.
Rydym yn croesawu ceisiadau am gymorth gan unigolion, arweinyddion grwpiau neu benaethiaid ysgolion. (Gweler yr adran Sut i wneud cais.)
Rydym wedyn yn cydweithio gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a’r Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM), i geisio sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu cyfeirio i fannau lle mae gwir angen – a lle gall ein cyfraniad wneud gwahaniaeth.
Yn y blynyddoedd diwethaf, fe roddwyd cymorth mewn tri prif gategori.
1. Cafodd yr ysgolion / cylchoedd isod gymorth i greu taflenni deniadol er mwyn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o werth addysg Gymraeg a sicrhau cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu’r ysgolion.
2004 - 2010
Ysgolion Cynradd Cymraeg Login Fach, Bryn Iago a Phontybrenin yn nalgylch Ysgol Gyfun Gwyr, Tregwyr, Abertawe;
Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn nalgylch Ysgol Gyfun Llanhari;
Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yn nalgylch Ysgol Gyfun Cymer Rhondda;
Ysgol y Fenni, ac Ysgol y Ffin, Cas-gwent, yn nalgylch Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl, Torfaen;
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-grug yn nalgylch Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr;
Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau yn nalgylch Ysgol Gyfun Rhydfelen / Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd;
Cylchoedd Meithrin Caerffili – 14 Cylch, a phob taflen wedi ei ‘chwsmereiddio’ – yn nalgylch Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Coed Duon, Caerffili;
Is-grŵp Marchnata Torfaen yn nalgylch Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl;
MYM a TWF yn ardal Pen-y-bont Ar Ogwr;
2011
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug, Merthyr
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen
2. Rhoddwyd cymorth i’r canlynol gael dau ben llinyn ynghyd neu i wella eu delwedd trwy brynu offer neu adnoddau newydd.
2005-2010
Cylch Meithrin Cilfynydd
Cylch Meithrin Efail Isaf
Cylch Meithrin Blaendulais
Cylch Meithrin Penpedairheol, Hengoed
Cylch Meithrin Summerhill, Wrecsam
Ysgol Gymraeg Ifor Hael, Casnewydd
Cylch Meithrin newydd yn Llanhari, Taf Elái
Cylch Meithrin Pentre Bach, Merthyr
Ysgol Panteg, Torfaen
2011
Cylch Meithrin Tŷ’r Cymry, Caerdydd;
Ysgol Feithrin Ynys y Plant, Felinfach, Ceredigion
Cylch Meithrin y Ffynnon, Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf
3. Yn ystod 2009 - 2011 rhoddwyd cymorth ariannol i deuluoedd unigol sicrhau bod eu plant yn gallu parhau i fynychu cylchoedd neu ysgolion Cymraeg.
Yn ystod 2010 rhoddwyd swm o arian i Dyslecsia Cymru er mwyn cyhoeddi deunydd profion darllen addas yn y Gymraeg ar gyfer plant oed cynradd.
Hefyd, yn ystod 2010, ymunodd Cronfa Glyndŵr â Mudiadau Dathlu’r Gymraeg.
Efallai y gallwn ni wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi.
Cysylltwch â ni.