Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am gymorth

Byddem yn falch o dderbyn ceisiadau gan benaethiaid ysgolion neu arweinwyr grwpiau lleol. Ein prif nod, fel y dywedwyd, yw hybu ymgyrchoedd i gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Gwahoddir ceisiadau ar ffurf llythyr, a rhoddir canllaw ynglŷn â hyn isod:

Adran 1
Enw’r Ysgol/Cylch/Grŵp
Enw’r person sy’n gwneud y cais
Cyfeiriad llawn, yn cynnwys y côd post
Rhif ffôn ac e-bost

Adran 2
Gwybodaeth berthnasol am eich Ysgol/Cylch/Grŵp, yn cynnwys, lle bo’n briodol, wybodaeth am y sefyllfa ariannol.

Adran 3
Rhowch fanylion am eich cais. Beth yw’r nod? Pryd a sut y bwriedir gweithredu?

Dylech nodi’r union swm y cynigiwch amdano (gan gynnwys dyfynbrisiau lle bo’n berthnasol e.e. argraffu pamphledi).

Gan nad yw’r Gronfa fel arfer yn ariannu project yn llawn, nodwch pa gyfraniad a wneir gan yr Ysgol/Cylch/Grŵp ei hun a/neu eraill.

Pan fydd cyhoeddiad yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Glyndŵr, bydd angen rhoi brawddeg o gydnabyddiaeth i’r Gronfa, ynghyd â’r logo swyddogol, ar y daflen. (Gellir cael y logo ar ffurf electronig gan yr Ysgrifennydd.)

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â’r Ysgrifennydd ar 02920-566731 neu e-bost db.james[at]ntlworld.com

Anfonwch eich cais at:

D. Bryan James
Ysgrifennydd Cronfa Glyndŵr, 52 Highfields, Llandaf, Caerdydd CF5 2QB

neu trwy e-bost db.james[at]ntlworld.com