Amdanon ni

Gwneud gwahaniaeth

Sefydlwyd Cronfa Glyndŵr yn 1963 er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg. Tan 2004 y patrwm fu ymateb i geisiadau am gymorth gan rieni unigol neu arweinwyr grwpiau. Ar hyd y blynyddoedd mae tystiolaeth bod y cyfraniadau a wnaed wedi bod o gymorth ymarferol i blant dderbyn addysg Gymraeg.

Wrth ail-lansio’r Gronfa yn 2004 penderfynwyd newid pwyslais. Y nod o hyn allan fyddai defnyddio ein ‘cysylltiadau’ yn y maes, a chydweithio gyda RHAG, i weld ble roedd angen ymgyrchu i ennill mwy o blant i’r sector Gymraeg. Cafwyd ceisiadau gan ysgolion am gymorth i gynhyrchu taflenni deniadol i’w dosbarthu’n lleol.

Dyma’r ymgyrchoedd a gafodd gymorth hyd yn hyn:

  • Ysgolion Cynradd Cymraeg Login Fach, Bryn Iago a Phontybrenin yn nalgylch Ysgol Gyfun Gŵyr, Tregwyr, Abertawe;
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn nalgylch Ysgol Gyfun Llanhari, Llanhari;

    Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yn nalgylch Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Porth;

    Ysgol y Fenni, Y Fenni, ac Ysgol y Ffin, Cas-gwent, yn nalgylch Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl, Torfaen;

    Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-grug yn nalgylch Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr;

    Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau yn nalgylch Ysgol Gyfun Rhydfelen / Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd;

    Cylchoedd Meithrin Caerffili – 14 Cylch, a phob taflen wedi ei ‘chwsmereiddio’ – yn nalgylch Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Coed Duon, Caerffili.

Mae tystiolaeth bod y taflenni wedi gwneud gwahaniaeth trwy gyfrannu at godi ymwybyddiaeth o werth addysg Gymraeg a sicrhau cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu’r ysgolion hyn.

Er mai hybu ymgyrchoedd fel y rhai uchod yw prif nod y Gronfa bellach, ni chefnwyd ar geisiadau o’r ‘hen’ fath. Penderfynwyd, er enghraifft, na ellid peidio â chefnogi apêl daer gan Gylch Meithrin Cilfynydd, oedd mewn tipyn o argyfwng ac mewn perygl o orfod cau’r drysau. Gyda chymorth amserol Cronfa Glyndŵr fe gadwyd y drysau ar agor, gwelwyd cynnydd yn nifer y plant ac fe achubwyd y sefyllfa.

Rhoddwyd cymorth tebyg i Gylchoedd Meithrin Efail Isaf a Blaendulais.

Efallai y gallen ni wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi.

Cysylltwch â ni.