CRONFA GLYNDŴR YR YSGOLION CYMRAEG
CYLCHLYTHYR 1 Mehefin 2011
Croeso! Dyma’r cylchlythyr cyntaf i ni ei baratoi ar gyfer cefnogwyr a noddwyr Cronfa Glyndŵr.
Mae’n bwysig i chi gael gwybod ble a sut mae arian y Gronfa’n cael ei wario.
Nod cyffredinol y Gronfa yw hybu addysg Gymraeg,
a’r nod penodol yw ‘gwneud gwahaniaeth’ lle bo gwir angen.
Mae’r adborth a gawn gan y rhai sy’n derbyn cymorth yn gadarnhaol iawn ac yn dangos bod hwb fach amserol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Rhoddion cymorth Bu’r ddwy flynedd ddiwethaf yn gyfnod prysur i’r Gronfa, ac fe ddyrannwyd dros £5,700 i wahanol achosion.
· Mae mwy a mwy o alw am gymorth i gyhoeddi taflenni lliwgar a deniadol sy’n dangos manteision addysg Gymraeg. Caiff y rhain eu dosbarthu’n lleol er mwyn denu mwy o blant i’r ysgolion.
Dyma’r enghreifftiau diweddaraf, ac fe allwch weld y taflenni trwy glicio ar y mannau priodol. [Alun. Mae copi electronig gyda fi o daflenni Torfaen a Phen-y-bont. Fel galla i eu gwneud ar gael i’r darllenwyr trwy glicio?]
i. Grŵp Marchnata Torfaen yn nalgylch Ysgol Gyfun Gwynllyw - £500 [cyswllt .............................]
ii. MYM aTWF ardal Pen-y-bont ar Ogwr - £400 [cyswllt .............................]
iii. Ysgol Gynradd Rhyd y Grug, Merthyr - £500 [cyswllt i ddod.]
iv. Menter Iaith Blaenau Gwent - £400 [cyswllt i ddod.]
· Rhoddwyd cyfraniadau tuag at brynu adnoddau i wella delwedd y Cylch neu’r Ysgol neu, mewn rhai achosion, er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd a chadw’r lle ar agor nes dyfod dyddiau gwell! Er enghraifft:
i. Cylch Meithrin Penpedairheol, Hengoed - £500
ii. Cylch Meithrin Summerhill, Wrecsam - £500
iii. Ysgol Gymraeg Ifor Hael, Casnewydd - £400
iv. Cylch Meithrin Llanhari - £400
v. Cylch Meithrin Pentr Bach, Merthyr - £300
vi. Ysgol Panteg, Torfaen - £220
vii. Cylch MeithrinTŷ’r Cymry, Caerdydd - £500
viii. Ysgol Feithrin Ynys y Plant, Felinfach, Ceredigion - £500
· Mewn tri achos yn ddiweddar, rhoddwyd cymorth (o £100 i £150) i helpu teuluoedd unigol i gwrdd â chostau cadw eu plant mewn ysgolion Cymraeg.
· Math newydd o gymorth y llynedd oedd rhoi £250 i’r grŵp Dyslecsia Cymru i’w helpu i gynhyrchu deunydd profi darllen Cymraeg i blant oed cynradd. Ar ôl yr hwb gychwynnol yma, fe gawsant nawdd gan eraill ac erbyn hyn mae’r deunydd ar gael i ysgolion. Enghraifft o hwb amserol yn ‘gwneud gwahaniaeth’!
Cydweithio Mae’r Gronfa’n cydweithio’n agos gyda RhAG. Mae Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG yn aelod o’n pwyllgor, ac mae Michael Jones, Llywydd RhAG, yn un o’n Ymddiriedolwyr. Mae hyn yn gymorth mawr i ni wrth drafod ceisiadau.
Yn yr un modd, mae swyddogion MYM yn barod iawn i’n helpu pan fo angen gwybodaeth.
Yn 2010 fe ymunodd y Gronfa â’r grŵp ymbarél, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg (ar gost o £25 y flwyddyn). Bu’r grŵp hwnnw’n weithgar iawn yn ystod y cyfnod diweddar, yn arbennig gyda’r ymgyrch i gryfhau’r Mesur Iaith a’r ymgyrch i sicrhau dyfodol S4C. Er mai ‘goddefol’ fu rôl y Gronfa, roeddem yn falch o ddatgan ein cefnogaeth i’r ymgyrchoedd hyn.
Rhoddion i’r Gronfa Mae gallu’r Gronfa i weithredu er lles addysg Gymraeg yn dibynnu ar roddion gan ein cefnogwyr. Mae nifer o unigolion yn cyfrannu trwy Rodd Cymorth – yn rhoddion sengl neu gyfamodi – ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yma.
Gweler yr adran O ble y daw’r arian? (Cliciwch)
Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a ymatebodd yn hael i Apêl y Cadeirydd. Nid pawb sy wedi derbyn y gwahoddiad eto – efallai y daw’r alwad i chi yn y dyfodol agos!!
Rhodd Goffa Ar y 10fed o Chwefror 2010 bu farw Llinos Prys Davies, priod hoff ein Llywydd Anrhydeddus, Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies. Dymuniad y teulu oedd bod rhoddion er cof amdani yn mynd i Gronfa Glyndŵr, ac fe dderbyniwyd y swm anrhydeddus o £1,050. Dywedodd ein Llywydd eu bod fel teulu ‘yn awyddus i gyfrannu i’r Gronfa fel arwydd bychan o’n cydnabyddiaeth o’n dyled enfawr iddi’.
Ein braint ninnau yw cofio a chydnabod cyfraniad gwerthfawr Llinos i addysg Gymraeg, yn arbennig fel athrawes ysbrydoledig, yn Ysgol Gymraeg Evan James, Pontypridd. [I’w gadarnhau gyda Gwilym.]
Cinio’r Gronfa Bob dwy flynedd cynhelir cinio arbennig i ddathlu bodolaeth y Gronfa – i roi tipyn o hysbys i’n gwaith ac, yn sgîl hynny, godi ychydig mwy o arian i helpu’r achos.
Cynhelir cinio 2011 ar 15 Hydref, yng Nghlwb Golff Radur, a’r gŵr gwadd yw Dr John Davies. Dewch yn llu – bydd yn noson i’w chofio!
Croeso i bawb a’i ffrind – bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael. I wneud yn siwr o’ch lle – y 100 cyntaf i’r felin ... – cysylltwch mewn da bryd â’r Ysgrifennydd, Bryan James, neu unrhyw un o’r Ymddiriedolwyr. [Cliciwch]