Amdanom Ni

Gwneud gwahaniaeth

Sefydlwyd Cronfa Glyndŵr yn 1963 er mwyn hyrwyddo addysg Gymraeg. Tan yn ddiweddar y patrwm fu ymateb i geisiadau am gymorth gan unigolion neu arweinwyr grwpiau. Ar hyd y blynyddoedd mae tystiolaeth bod y cyfraniadau a wnaed wedi bod o gymorth ymarferol i blant dderbyn addysg Gymraeg.

Wrth ail-lansio’r Gronfa yn 2004 datganwyd mai’r nod o hyn allan fyddai defnyddio ein ‘cysylltiadau’ yn y maes, a chydweithio gyda RHAG, i weld ble roedd angen ymgyrchu i ennill mwy o blant i’r sector Gymraeg. Trwy fedru rhoi cymorth ariannol i gychwyn ymgyrch, y teimlad oedd bod modd gwneud gwahaniaeth a sicrhau llwyddiant. Fel arfer mae’r ymgyrchoedd hyn yn cael eu trefnu gan ysgolion.

Dyma rai ymgyrchoedd a gafodd gymorth:

  • Ysgolion Login Fach, Waunarlwydd a Phontybrenin yn nalgylch Ysgol Gyfun Gŵyr;
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn nalgylch Ysgol Gyfun Llanhari;
  • Ysgol y Fenni ac Ysgol y Ffin, Gwent yn nalgylch Ysgol Gyfun Gwynllyw;
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yn nalgylch Ysgol Gyfun Cymer Rhondda.

Defnyddiwyd yr arian hwn i gynhyrchu taflenni deniadol i’w dosbarthu’n lleol.

Mae tystiolaeth bod y taflenni wedi cyfrannu at sicrhau cynnydd yn niferoedd y plant sy’n mynychu’r ysgolion hyn.

Mae ymgyrchoedd tebyg yn cael eu trefnu ar hyn o bryd gan Ysgol Rhyd-y-grug (Rhondda), Ysgol Llwynderw (Abertawe) ac Ysgol Castellau (Llantrisant). Disgwylir rhagor o weithgaredd yn ystod 2008.

Er mai hybu ymgyrchoedd o’r math a ddisgrifir uchod yw prif nod y Gronfa bellach, ni chefnwyd yn llwyr ar geisiadau o’r ‘hen’ fath. Penderfynwyd, er enghraifft, na ellid peidio â chefnogi apêl daer gan Gylch Meithrin Cilfynydd, oedd mewn tipyn o argyfwng ac mewn perygl o orfod cau’r drysau. Gyda chymorth amserol Cronfa Glyndŵr fe gadwyd y drysau ar agor, gwelwyd cynnydd yn nifer y plant ac fe achubwyd y sefyllfa.

Sut mae’r Gronfa’n gweithredu?

Trwy roi cefnogaeth ariannol gynnar i ymgyrchoedd penodol, neu achosion unigol arbennig, gobeithiwn ein bod yn gallu gwenud gwahaniaeth i sicrhau llwyddiant.